Wy/cy/Gwledydd Prydain
Mae Gwledydd Prydain (neu'n fyr: Prydain) yn wladwriaeth sy'n cynnwys y gwledydd canlynol: yr Alban, Cernyw, Cymru, Lloegr ac Ynys Manaw; yn ôl deddfwriaeth Llywodraeth Lloegr mae hefyd yn cynnwys Gogledd Iwerddon o fewn yr hyn a alwant yn Y Deyrnas Unedig (Saesneg: United Kingdom). Yn y Mabinogi gelwir y darn yma o Ogledd Ewrop yn Ynysoedd Prydain.
Gwledydd Celtaidd yw'r rhain i gyd, ar wahân i Loegr sy'n gasgliad o wahanol lwythau a ddaeth i'r ynysoedd hyn rhwng 450 - 700 O.C. a'r Llychlynwyr hyd yn oed yn ddiweddarach. Mae yma, felly, glytwaith o bobl gwahanol a sawl diwylliant. Mae daearyddiaeth Prydain hefyd yn amrywiol iawn gyda gwastadeddau Lloegr ar y naill law a mynyddoedd geirwon yr Alban ar y llaw arall.
Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iwerydd. Hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol, mae Gwledydd Dibynnol y Goron, sef Ynysoedd y Sianel (Gurnsey a Jersey) ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor megis y Malvinas.