Jump to content

Wy/cy/Ewrop

From Wikimedia Incubator
< Wy‎ | cy
Wy > cy > Ewrop
Twr Eiffel ym Mharis

Mae gan Ewrop [1] arwynebedd o 10,180,000 km2 (3,930,000 milltir sgwar). Mae'n ymestyn o Asia i Gefnfor yr Iwerydd a hyd at Affrica a'r Arctic. Daw dros 480 o ymwelwyr rhyngwladol i'w barthau'n flynyddol: dros hanner yr ymwelwyr byd-eang. Mae yma ystod eang o wahanol ddiwylliannau er mai hwn yw'r ail gyfandir lleiaf o ran arwynebedd. Yng ngogledd-orllewin Ewrop saif gwledydd Prydain ac yno, ar "gilcyn o ddaear mewn cilfach gefn" mae cadarnle'r Gymraeg: Cymru.

Rhanbarthau

[edit | edit source]

Mae Ewrop yn glwstwr o wledydd amrywiol iawn: pob un gyda'i ddiwylliant unigryw a'i hunaniaeth, ei hiaith a'i diwylliant ei hun. Dyma glystyru at ei gilydd grwpiau o wledydd Ewrop:

Map of Europe's regions
y Balcanau (Albania, Bosnia a Herzegovina, Bwlgaria, Croatia, Kosovo, Gweriniaeth Macedonia, Moldova, Montenegro, Romania, Serbia, Transnistria)
Mae gan y Balcanau hanes cyfoethog ac amrywiol iawn, a chyfnodau o ryfeloedd gwaedlyd. Ceir trefi cosmopolitan iawn, cestyll a mynachdai rhyfeddol yn coronni'r bryniau a mynyddoedd fel cewri yma ac acw, nifer ohonyn nhw gyda fforestydd a llynnoedd.
Gwledydd y Baltig (Estonia, Latvia, Lithuania)
Tair gwladwriaeth sydd a thraethau bendigedig ar hyd arfordir hir, gyda threfi hynafol a golygfeydd prydferth. Mae gan Estonia gysylltiadau ieithyddol a diwylliannol gyda'r Ffindir.
Benelux (Gwlad Belg, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd)
Mae cwpan y dair wlad yma'n orlawn: gwlad amlddiwylliannol ydy Gwlad Belg gyda threfi hanesyddol sy'n ffinio gyda Lwcsembwrg a bryniau yr Ardennes.
Gwledydd Prydain ac Iwerddon (Guernsey, Iwerddon, Ynys Manaw, Jersey, Gwledydd Prydain)
Mae gwledydd Prydain yn frith o wahanol ddiwylliannau gydag olion Celtaidd a chestyll hynafol. Mae yno hefyd drefi aml-ddiwylliannol. Mae'r tirwedd yn y gwledydd Celtaidd yn fwy gwledig gyda bryniau a dyffrynnoedd mwynion a mynyddoedd geirwon.

Yn wleidyddol mae nifer o'r gwledydd yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd a uno gwledydd Ewrop mewn un fframwaith wleidyddol.

Dinasoedd

[edit | edit source]
  • Amsterdam — camlesi, Rembrandt, hashish a strydoedd golau coch, rhyddfrydaeth
  • Barcelona — Cartref Gaudi ar arfordir y Môr Canoldir

Hanes

[edit | edit source]
Fflorens, crud gwareiddiad y Dadeni Dysg

Daw'r dystiolaeth ysgrifenedig o ddiwylliant Ewropeaidd o Wlad Groeg: Homer (800 C.C.?), Hesiod (753 C.C.) a Kallinos (728 C.C.) er enghraifft sef tro o feirdd cynharaf Ewrop. Cred archaeolegwyr a haneswyr i Rufain gael ei sefydlu rhwng 1000 a 800 C.C.

Gwledydd

[edit | edit source]
Gwlad Symbol Arian cyfred Aelod EU Cytundeb
Schengen
Parth Amser³ Rheilffordd
Eurail
InterRail
Albania AL, .al ALL n n CET n n
Andorra AND, .ad EUR n n5 CET n n
Armenia ARM, .am AMD n n +4 n n
Awstria A, .at EUR 1995 y CET y y
Belarws BY, .by BYR n n EET n n
Gwlad Belg B, .be EUR 1958 y CET y y
Bosnia a Hercegovina BIH, .ba BAM n n CET n y
Bwlgaria BG, .bg BGN 2007 n EET y y
Croatia HR, .hr HRK n CET y y
Cyprus CY, .cy EUR 2004 n CET n n
Gweriniaeth Tsiec CZ, .cz CZK 2004 y CET y y
Denmarc DK, .dk DKK 1973 y CET y y
Estonia EST, .ee EUR 2004 y EET n n
Ffindir FIN, .fi EUR 1995 y EET y y
Ffrainc F, .fr EUR 1958 y CET y y
Yr Almaen D, .de EUR 1958 y CET y y
Gwlad Groeg GR, .gr EUR 1981 y EET y y
Hwngari H, .hu HUF 2004 y CET y y
Glwlad yr Iâ IS, .is ISK n y WET n n
Iwerddon IRL, .ie EUR 1973 n WET y y
yr Eidal I, .it EUR 1958 y CET y y
Kosofo6 KS (.rs) EUR n n CET n n
Latvia LV, .lv LVL 2004 y EET n n
Liechtenstein FL, .li CHF n y CET n n
Lithwania LT, .lt LTL 2004 y EET n n
Lwcsembwrg L, .lu EUR 1958 y CET y y
Macedonia MK, .mk MKD n¹ n CET n y
Malta M, .mt EUR 2004 y CET n n
Moldofa MD, .md MDL n n EET n n
Monaco MC, .mc EUR n n5 CET n n
Montenegro MNE, .me (.yu) EUR n CET n7 y
Yr Iseldiroedd NL, .nl EUR 1958 y CET y y
Norwy N, .no NOK n y CET y y
Gwlad Pwyl PL, .pl PLN 2004 y CET n7 y
Portiwgal P, .pt EUR 1986 y WET y y
Romania RO, .ro RON 2007 n EET y y
Rwsia RU, .ru (.su) RUB n n MSK4 n n
San Marino RSM, .sm EUR n n5 CET n n
Serbia SRB, .rs (.yu) RSD2 n1 n CET n7 y
Slovacia SK, .sk EUR 2004 y CET n y
Slofenia SLO, .si EUR 2004 y CET y y
Sbaen E, .es EUR 1986 y CET y y
Sweden S, .se SEK 1995 y CET y y
Swistir CH, .ch CHF n y CET y y
Turkey TR, .tr TRY n EET n y
Wcráin UA, .ua UAH n n EET n n
Gwledydd Prydain GB, .uk GBP 1973 n WET n y
Y Fatican V, .va EUR n n5 CET n n


Commons:Category:Ewrop cy:Wicipedia:Ewrop Dmoz:Regional/Europe


This is a usable article. It gives a good overview of the region, its sights, and how to get in, as well as links to the main destinations, whose articles are similarly well developed. An adventurous person could use this article, but please plunge forward and help it grow!