Wy/cy/Wicidaith:Gwybodaeth am Wicidaith

From Wikimedia Incubator
< Wy‎ | cy
Wy > cy > Wicidaith:Gwybodaeth am Wicidaith

Teithlyfr byd-eang ar gyfer y "teithiwr talog", chwedl Parry-Williams, ydy Wicidaith, i'w gynorthwyo i gynllunio'i wyliau cyn cychwyn neu ar ôl cyrraedd. Mae'n gronfa o wybodaeth berthnasol, gyfoes a dibynol, sy'n tyfu o ddydd i ddydd.

Cychwynwyd y gwaith ar y 15fed o Ionawr 2013 yn yr ysbryd o rannu gwybodaeth a chynnwys rhydd ac agored, fel a wnaed gyda gweddill y teulu gan gynnwys Wicipedia. Yr un ydy ysbryd y teithiwr rhadlon hwnnw hefyd pan mae'n sgwrsio gyda chyd-deithiwr ar awyren, mewn gorsaf dren neu ar draeth: yr ysbryd o rannu gwybodaeth. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon o fewn eich gwefan bersonnol hefyd gan ei bod wedi'i thrwyddedu ar drwydded CC-BY-SA.


Mwynhewch! ...a rhannwch!