Mae cyfandir Asia'n rhy fawr ac amrywiol i'w ddisgrifio mewn gair neu ddau, a dyna ni wedi defnyddio dau air addas: "mawr" ac "amrywiol"! Mae'r gair "lliwgar" hefyd yn addas. Gadewch i ni ei ddidoli i ddarnau mwy hyblyg y gallwn eu cnoi.
Un anhawster ydy ble yn union rydym yn ei ddisgrifio? Mae'n rhychwantu pegynnau mor bell oddi wrth ei gilydd â'r mynyddoedd sydd a'u traed yn y Môr Du yn y gorllewin hyd at diroedd gwastad Siberia a'i rew a'i eira yn y dwyrain. Yn y rhan hwn, ceir mwy o bobl oddi fewn na sydd yng ngweddill y byd! Y rhan uchaf ydy Mynydd Everest sydd a'r naill droed yn Tibet a'r llall yn Nepal ac sydd a'i ben 8,848 m (29,028 tr) yn y cymylau! Mewn cyferbyniad gyda hyn, gorwedd y Môr Marw, a leolir ar y ffin rhwng Palesteina, Iorddonen ac Israel sydd 400 m (1,312 tr) yn is na lefel y môr.
Yr afon hiraf yn Asia ydy'r Yangtze, sy'n llifo drwy Tseina am 6,300 o gilometrau (3,915 mi). Ei ffynhonnell ydy Llwyfandir Tibet ac mae ei aber yn Shanghai. Ei "llyn" mwyaf ydy Môr Caspia sy'n 386,400 km sgwâr (149,200 milltir sgwâr) a saif nifer o brif wledydd Asia ar ei lannau.
Rwsia a'r Cawcasws (Azerbaijan, Armenia, Georgia, Rwsia) Russia comprises much of Asia, a huge country of vast, empty expanses. The Caucasus is a dense, warm, friendly region, but some parts of it are war zones and considered unstable.